Stori gymhleth
Dyma siwrnai gyda chymaint o gorneli a thirdroadau ag sydd ar y rheilffordd ei hun. Yma cawn hanes olrhain adeiladu beth yr ystyriwn heddiw fel Rheilffordd yr Ucheldir o ystod eang o gynlluniau ac ymdrechion i adeiladu rheilffordd yn ucheldir Eryri.
Hanes Cynnar

Dechreuodd tarddiad cynnar Rheilffordd Ucheldir Cymru gydag adeiladu tramffordd a dynnwyd gan geffyl yn cludo llechi o chwareli yn nyffrynnoedd Nantlle a Chroesor i lawr i harbwr Caernarfon a Phorthmadog. Cynlluniwyd tramffordd Nantlle gan George Stephenson ond, yn y pen draw, fe’i hail-adeiladwyd fel rhan o Reilffordd Lled Safonol Sir Gaernarfon o 1867 pan unwyd gyda Rheilffyrdd Lled Gul Gogledd Cymru (NWNGR) a Rheilffordd Ucheldir Cymru (WHR) yn nes ymlaen gydag ymgyfnewidfa yn Dinas. Daeth Tramffordd Croesor yn rhan o Reilffordd Porthmadogh, Beddgelert a De’r Wyddfa (PBSSR) rhwng Cyffordd Croesor a Phorthmadog. Defnyddiwyd ceffyl a thractor ar weddill y dramffordd nes ei chau.
Agorwyd Rheilffordd Lled Gul Gogledd Cymru (NWNGR) yn 1877 fel lein dair milltir o hyd rhwng Dinas a Bryngwyn gan uno gydag inclein i fyny i chwareli llechi Moel Tryfan. Ymestynnwyd y rheilffordd gan ffurfio cangen, a ddaeth yn ddiweddarach yn brif lein hyd at De’r Wyddfa, Rhyd Ddu erbyn heddiw. Bu pump locomotif ar y lein yn ystod ei chyfnod.
Yn nes i’r de, roedd cynlluniau ar droed gan Ynni Gogledd Cymru (NWP) a Chwmni Tyniant i greu rheilffordd i uno chwareli dyffryn Nant Gwynant a thraeth Black Rock ger Porthmadog gan ddefnyddio rheilffordd drydan a bwerwyd gan waith trydan-dŵr, hyn yn rhan o gynllun ehangach. Adeiladwyd yn rhannol rhwng 1901 a 1906 ond ni chwblhawyd y cynllun yma ac ni weithiwyd y rheilffordd gyda thrydan. Gellir gweld rhywfaint o’r adeiladwaith o’r trên o amgylch Bwlch Aberglaslyn.
Cychwyn Rheilffordd Ucheldir Cymru
Roedd gan Rheilffordd Lled Gul Gogledd Cymru (RhLlGGC)) gynlluniau manwl o’i “Menter Cyffredinol” arfaethedig ar gyfer llinellau yn ymestyn o Gaernarfon a Phorthmadog cyn belled â Chorwen trwy Gapel Curig a Betws-y-Coed. Buasai’r cynlluniau hyn wedi gweld rhwydwaith reilffordd yn ymestyn dros 60 milltir.
Yn dilyn trafferthion ariannol oddi mewn i gwmni Rheilffordd Porthmadog, Beddgelert a De’r Wyddfa (RhPBDW) a Chwmni RhLlGGC, cymerwyd y cwmnïau drosodd gan Gorfforaeth Aliwminiwn, Dolgarrog, RhPBDW yn 1918 a RhLlGGC yn 1922. Arweiniodd hyn at adfywiad yn y cynlluniau i uno Dinas a Phorthmadog trwy greu Rheilffordd Ucheldir Cymru (RhUC). Cwblhawyd y lein yn 1923 gan Gwmni McAlpine a’i Feibion.
Ni fu’r rheilffordd yma yn broffidiol gan na wireddwyd y gobaith o draffig nwyddau llwyddiannus o’r chwareli oherwydd dirywiad y chwareli. Roedd gan y Rheilffordd injans a stoc wageni a cherbydau oedd yn heneiddio ac ni allai gystadlu gyda’r gwasanaeth bysiau lleol am gludiant teithwyr. Aeth y Cwmni yn fethdalwyr bedair blynedd ar ôl agor y lein. Fodd bynnag, bu trenau yn rhedeg hyd at 1933.
O 1942 ymlaen mabwysiadwyd y rheilffordd gan Gwmni Rheilffordd Ffestiniog (RhFf) gyda les o’r lein am 42 o flynyddoedd. Yn dilyn hyn, gwelwyd newid ym mhwyslais y lein tuag at y farchnad cludiant teithwyr gyda cherbydau lliwgar yn hyrwyddo Bwlch Aberglaslyn a chynnig tocynnau cylch dros gledrau RhUC, RhFf a llinellau lled safonol Rheilffyrdd Prydeinig. Yn yr un cyfnod, bu rhaid lleihau mesurau nifer o injans RhUC er mwyn gweddu â lled cyfyng RhFf gan newid edrychiad nifer ohonynt.
Dirywiad terfynol a chau’r lein
Er ymdrechion gorau RhFf i wella safonau cyffredinol RhUC, bu’r cyfan yn ofer oherwydd diffyg gwneud elw. Rhedodd y trên teithwyr olaf ar Fedi 5ed 1936 a daeth diwedd trenau nwyddau yn 1937.
Yn dilyn hyn, bu’r lein yn segur am nifer o flynyddoedd a chodwyd y cledrau yn 1941 i gynorthwyo Ymdrechion Y Rhyfel, gan nodi diwedd y RhUC gwreiddiol.
Cychwynnwyd ymdrechion i adfer Rheilffordd yr Ucheldir yn yr 1960au gan y Rheilffordd a gyfeirir ati heddiw fel Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru (RhTUC). Cyfeirir ati hefyd fel ‘Y Cwmni 64’. Oherwydd anallu’r cwmni yma i sicrhau tir y RhUC gwreiddiol, medrwyd sicrhau seidin Beddgelert oddi ar y Rheilffordd Brydeinig ac felly ffurfiwyd ymgyfnewidfa rhwng y RhUC gwreiddiol a Rheilffordd y Cambrian - Rheilffordd y Great Western fel y cyfeiriwyd ati yn ddiweddarach. Defnyddiwyd yr ymgyfnewidfa hon i drosglwyddo llechi a nwyddau eraill o’r linell lled gul i’r linell lled safonol. Mae RhUC wedi sefydlu amgueddfa sy’n cynnwys hanes y rheilffordd. Yn ychwanegol, ceir casgliad o injans gwreiddiol a rhai replica, stoc wageni a cherbydau ac adeiladau.
Ail-adeiladu: Ystyried posibilrwydd y freuddwyd
Yn ddadleuol, yn 1989 mentrodd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog (CRhFf) i roddi cynnig gerbron Y Derbynnydd Swyddogol am wely gwreiddiol lein RHUC. Yn dilyn blynyddoedd o frwydrau cyfreithiol, derbyniodd CRhFf Orchymyn Trafnidiaeth a Gwaith yn galluogi trosglwyddiad perchnogaeth o’r Derbynnydd Swyddogol i ail-adeiladu’r rheilffordd, gyda’r gwaith yn cychwyn ar yr adran gyntaf o’r lein rhwng Dinas a Chaernarfon ar wely trac Rheilffordd Sir Gaernarfon gynt yn 1997. Agorwyd yr adran yma yn yr un flwyddyn gan ddynodi cychwyn dadenni Rheilffordd Ucheldir Eryri.
Oherwydd graddiant serth RhUC, bu raid i’r cwmni edrych ymhell am injans digon nerthol i dynnu trenau hir ar y rheilffordd orffenedig. Daeth y rhain o Dde Affrica mewn ffurf Garratt NG/G16, yr injans mwyaf nerthol ar lein lled 2 droedfedd yn y byd. Mewnforiwyd hwy ynghyd â dwy injan disel a cherbydau a wagenni eraill.
Agorwyd y rheilffordd mesul adran a chafwyd cefnogaeth anferthol gan y cyhoedd ynghyd â chymorth gangiau o wirfoddolwyr, gan gychwyn wrth adeiladu stesion Waunfawr yn 2000, Rhyd Ddu yn 2003, Beddgelert yn 2009 a Phont Croesor yn 2010. Agorwyd y lein orffenedig i Borthmadog yn 2011, gan wireddu’r freuddwyd o ddadenni Rheilffordd Ucheldir Cymru.
Heddiw
Er yr agorwyd y rheilffordd yn 2011, roedd llawer o bethau yn parhau i’w cyflawni er mwyn cwblhau’r freuddwyd. Ail-fodelwyd Stesion Harbwr Porthmadog yn sylweddol gan gwblhau yn 2014 ac adeiladwyd terminws newydd sbon yng Nghaernarfon, a agorodd yn 2019.
Mae gennym nifer fawr o gynlluniau uchelgeisiol i sylweddoli potensial RhUC a gallwch ymuno â ni fel rydym yn parhau ar y daith i gadw’r freuddwyd yn fyw.


















































