Ymunwch â’r freuddwyd
Mae nifer o ffyrdd i gefnogi Rheilffordd Ucheldir Cymru er mwyn cadw’r freuddwyd yn fyw. Er bod y rheilffordd wedi ei hadeiladu o Gaernarfon i Borthmadog, mae digon o bethau i’w gwneud eto i gwblhau’r freuddwyd.
Aelodaeth
Un o’r ffyrdd gorau i gadw’r freuddwyd yn fyw yw ymuno â’r Gymdeithas. Mae aelodau’r gymdeithas yn dod o bedwar ban y byd ac o bob cefndir. Yn ychwanegol i’r boddhad o gefnogi’r rheilffordd ar gyfer cenedlaethau i ddod, gallwch elwa o ystod o bethau gan gynnwys teithio am ddim, mynediad i ddigwyddiadau aelodau yn unig, teithiau cudd a chylchgrawn chwarterol o ansawdd da.


Gwirfoddoli
Mae llawer o waith yn gynwysedig â chadw’r olwynion i droi ar reilffordd treftadaeth hiraf Prydain. O griwiau injans a gangiau ar y lein i stiwardiaid a hyd yn oed corachod, mae ystod eang o rolau i ymgymryd â hwy. Efallai eich bod yn meddu ar sgiliau i ddod gyda chi i’r lein, neu eich bod yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd; mae rhywbeth at ddant pawb.
Cyfrannu
Mae’r Gymdeithas wedi cwblhau nifer o brosiectau ers iddi gael ei sefydlu yn 1992, o warchod adeiladau neu adeiladu rhai newydd, i atgyweirio injans stêm ac adeiladu cerbydau Pullman moethus. Mae pob cerbyd Pullman yn costio dros £200,000 ac atgyweirio injan hyd at filiwn o bunnoedd. Mae haelioni ein haelodau a chefnogaeth gan eraill wedi bod yn ganolog i wireddu’r freuddwyd; mae pob ceiniog yn cyfrif.
Prefer to donate via cheque? Please send these to our registered address below.

Ffyrdd eraill y gallwch ein helpu...
- Ail-gylchu eich hen getris argraffu a chyfrannu at ein cymdeithas trwy arwyddo gyda’n partner Recycle4Charity..
- Oes gennych chi hen ddillad neu garpiau dillad sy’n cymryd lle? Mae ein hadran injans stêm yn defnyddio symiau mawr o garpiau dillad i gadw’n fflyd o injans mewn cyflwr da. Byddwn yn croesawu cyfraniadau o ddilladau a gellir eu danfon i unrhyw swyddfa bwcio tocynnau neu yn uniongyrchol i Boston Lodge neu Dinas.

