Station View, Dinas
Mae nifer fawr o wirfoddolwyr Rheilffordd Ucheldir Cymru yn teithio o bell i ymweld â’r Rheilffordd, hyd yn oed o Awstralia! Ac felly, bydd rhai angen rhywle i aros wrth ymweld. Mae’r Gymdeithas yn berchen ar lety o’r enw Station View yn Dinas a chaiff ei ddefnyddio gan wirfoddolwyr sy’n gweithio ar Reilffordd Ucheldir Cymru a Rheilffordd Ffestiniog.
Mae ‘Station View’ yn llety gyda dwy ystafell ddwbl i’w rhannu ac un ystafell sengl i berson unigol. Yn ogystal, mae cyfleusterau i’w rhannu gan gynnwys ystafell ymolchi, cegin/ystafell fwyta ac ystafell ymlacio. Mae digon o lefydd parcio cerbydau ar y safle. Ni chyflenwir dillad gwely na chlustogau. Mae digon o lefydd parcio cerbydau ar y safle.
Please note there is a minimum age of 16 for those staying at Station View by themselves.
Cyfleusterau Cartrefi Modur a Charafanau
Mae lle i hyd at dri chartref modur neu garafanau bychain gyda thri phwynt trydan yn defnyddio cysylltiadau 16amp ynghyd â thapiau dŵr.
Gellir cael gwared â dŵr llwyd yn unig i lawr y draen y tu cefn i’r tŷ. Does dim darpariaeth i gael gwared â dŵr brown yn y draen yma.
Gellir cael gwared â dŵr llwyd yn unig i lawr y draen y tu cefn i’r tŷ. Does dim darpariaeth i gael gwared â dŵr brown yn y draen yma. Gwnewch yn sicr eich bod yn cau a chloi’r giât i Iard y Stesion yn arbennig yn y nos. Os nad oes gennych agoriad safonol math A i glo clap, bydd un ar gael yn y blwch diogel yn y sied fechan tu cefn i’r tŷ. Dychwelwch yr agoriad i’r blwch diogel ar ôl ei ddefnyddio ogydd. Cewch y côd i’r blwch diogel wrth archebu eich lle yn y llety.
Costau’r Llety
| Graddfa | 1 Noson | 2 Noson | 3 - 6 Noson (/noson) | 7 Noson |
|---|---|---|---|---|
| I rannu: Aelod | £12 | £23 | £10 | £63 |
| I rannu: Dim yn Aelod | £14 | £25 | £12 | £75 |
| Sengl: Aelod | £14 | £26 | £11 | £70 |
| Sengl: Dim yn Aelod | £18 | £32 | £13 | £84 |
| Cartref Modur: Aelod | £12 | £20 | £8 | £52 |
| Cartref Modur: Dim yn Aelod | £15 | £22 | £10 | £65 |
Ffurflen Bwcio
Please make your booking at least bedair wythnos cyn ddyddiad eich arhosiad. Nodwch y trefnir ystafelloedd i aros yn ôl ‘y cyntaf i’r felin….’

