Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn integrol i gynorthwyo gwaith unrhyw reilffordd treftadaeth yn y DU ac nid yw Rheilffordd Ucheldir Cymru yn wahanol.

Mae’r ymdrech yma yn amrywio o anghenion amlwg staff, fel criw injan, giard a staff Bwffe sy’n rhedeg y trenau, i’r swyddi sydd ddim mor amlwg, fel staff cynnal a chadw’r lein neu staff sy’n tacluso gerddi. Am bob un o’r rhain, mae nifer o weithwyr eraill sy’n cynorthwyo yn eu ffordd eu hunain, fel meistri creu gwefan fel hon yn eu seddau cyffyrddus gartref yn hyrwyddo’r wefan. Mae’n sicr y bod swydd yn bodoli lle y gallwch chithau ein helpu.

Criw yr Injans

Gyrrir a thannir yr injans gan bobl o bob cefndir gyda phob math o sgiliau. Mae rhai yn gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd, ond mae eraill yn bell o’r maes yma. Yr unig le cyffredin ydy diddordeb yn RhUC neu reilffyrdd yn gyffredinol. Os ydach chi’n ymddiddori yn yr un peth, yna rhowch gynnig ar weithio efo ni a gweld sut y dewch ymlaen.

Yr Adran Weithredu

Mae nifer o swyddi gwahanol ym maes rhedeg trenau; mae giard yn gyfrifol am ddiogelwch a rhedeg effeithiol y trenau, mae signalwr yn sicrhau symudiad trenau mewn stesion brysur fel Porthmadog, mae ceidwad croesfan yn rheoli croesfan wastad lle mae’r lein fach yn croesi rheilffordd lled safonol fel ag yn Cae Pawb ac mae rheolwyr yn angenrheidiol i arolygu gweithrediad rhwydwaith cyfan Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.

Atgyweirio Stoc wagenni a cherbydau a Chynnal a Chadw

Mae unrhyw declun ar olwynion angen cynnal a chadw ac atgyweirio. Nid yn unig mae gennym grwpiau sy’n atgyweirio injans stêm o’i cyflwr gwael mewn iard hen heyrn, ond hefyd mae angen cadw’r fflyd o wagenni a cherbydau mewn cyflwr da. Cyflawnir y gwiriadau blynyddol a’r adnewyddiadau cyson fel arfer gan staff parhaol gyda chymorth gwirfoddolwyr. Mae’r gwaith yn amrywio o sgiliau peintio a gwaith coed i lanhau a sgleinio; mae pob cymorth yn werthfawr.

Gwaith ar y Cledrau

Gosodswyd cledrau Rheilffordd Ucheldir Cymru yn bennaf gan wirfoddolwyr Cymdeithas Rheilffordd Eryri a hwy sy’n cwblhau y rhan fwyaf o gynnal a chadw’r lein. Mae’r gwirfoddolwyr yn dod o bob cefndir ac fe’u cynorthwyir gan bobl o’r tu allan i’r gymdeithas fel grwpiau o fyfyrwyr coleg, rheolwyr rheilffyrdd a’r fyddin i enwi ond rhai.

Garddio, gwaith adeiladu, swydd fel corrach a llawer mwy

Mae ystod eang o ffyrdd eraill y gallwch wirfoddoli a helpu i gadw’r freuddwyd yn fyw, fel troi’ch llaw at bethau gwahanol. Beth am gynorthwyo gyda garddio neu waith adeiladu? Dach chi’n ffansio bod yn gorrach ar ein Trenau Santa neu drenau arbennig eraill? Mae nifer o anturiaethau i bob un ohonom.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau ar antur eich hun?

Mae gwirfoddolwyr yn ymuno â ni o bob cefndir ac am nifer o resymau. O bobl sydd wedi bod yn hynod frwdfrydig am reilffyrdd ar hyd eu hoes i rai sy’n darganfod hobi newydd, does dim un peth hanfodol ar gyfer gwirfoddoli, felly pam na wnewch chi ddechrau eich antur ar y rheilffordd heddiw? Cysylltwch â’n Cydgysylltydd Gwirfoddoli heddiw trwy ddefnyddio’r ffurflen isod neu gysylltu â……. volunteer@crhe.uk.

cyCymraeg