Rydym bob amser yn hynod ddiolchgar i’n haelodau a’n cefnogwyr dros y byd i gyd am ein helpu yn ariannol i gadw breuddwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru yn fyw. Ni fuasai wedi bod yn bosib ail-adeiladu’r rheilffordd ac ail-greu un o deithiau rheilffordd mwyaf ysblennydd Prydain heb gymorth y bobl yma. Mae pob ceiniog a dderbynnir yn gwneud gwahaniaeth i gadw’r freuddwyd yn fyw.
Derbynnir a chroesawir pob cyfraniad yn gynnes ac os oes prosiect neu achos da sy’n agos at eich calon, gallwch gyfrannu i apêl benodol. Mae pob cymorth, waeth pa mor fychan, yn ein helpu ar ein siwrnai, a phetaech yn awyddus i gyfrannu trwy ddulliau eraill gan gynnwys trosglwyddiad banc neu siec, yna gweler y wybodaeth ychwanegol isod. Os ydych yn byw yn y DU ac yn cael eich ystyried yn gymwys, yna ystyriwch gyfrannu gyda chymorth rhodd/gift aid gan fod y dull yma yn helpu i’ch cyfraniad fynd ymhellach.
Gadael cymynrodd
Gallwch ein helpu i wrieddu’r freuddewyd hyd yn oed ar eich ôl trwy adael cymynrodd yn eich ewyllys. Eich cymynrodd yw ein dyfodol, sy’n golygu y gall cenedlaethau’r dyfodol ddarganfod a disgyn mewn cariad â Rheilffordd Ucheldir Cymru. Gall gadael cymynrodd er lles Cymdeithas Rheilffordd Eryri gael ei wneud mewn ychydig bach o gamau rhwydd:
- Trafodwch eich dymuniad i adael cymynrodd gyda’ch cyfreithiwr gan gynnwys unrhyw fanylion penodol a’r math o rodd y buasech yn dymuno’i roddi.
- Defnyddiwch y geirio cywir i sicrhau bod eich cymynrodd yn cyflawni eich bwriad.
- Gadewch i ni wybod eich dymuniad fel y gallwn ystyried unrhyw gymynroddau penodol a mynegi ein diolchgarwch, yn gyhoeddus neu yn breifat.
Mae gadael cymynrodd yn benderfyniad personol iawn a byddwn yn hapus i addasu eich dymuniad chi. I gael rhagor o wybodaeth am adael cymynrodd a thrafod unrhyw gwestiwn sydd gennych, cysylltwch â’n tîm aelodaeth sydd bob amser yn hapus i’ch helpu.
Dewis o gyfraniadau eraill
Byddwn yn croesawu cyfraniadau trwy amryw o ddulliau, gan gynnwys siec neu drosglwyddiad banc. Medrwn hefyd dderbyn arian tramor a hen bapurau arian! Petaech yn dymuno cyfrannu i’r Gymdeithas trwy drosglwyddiad banc, yna cysylltwch â’r tîm cyfraniadau a chodi arian.
Ar gyfer cyfraniadau gyda siec, gwnewch y siec yn daladwy i Cymdeithas Rheilffordd Ucheldir Cymru a’i gyrru i’r cyfeiriad canlynol ogydd:
Cymdeithas Rheilffordd Eryri
Station View
Dinas
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5UB
Gofynnwn i chi gynnwys nodyn ar wahân os ydych yn dymuno i’ch cyfraniad gael ei ddefnyddio ar gyfer cronfa neu apêl benodol, ac os yw eich cyfraniad yn gymwys am Gymorth Rhodd/Gift Aid. Ychwanegwch eich enw a’ch cyfeiriad fel y gallwn hawlio’r Cymorth Rhodd a diolchwn i chi ymlaen llaw. Gofynnwn i chi beidio â chynnwys unrhyw eiriau eraill heblaw Cymdeithas Rheilffordd Eryri ar y siec rhag ofn i’r siec gael ei gwrthod gan y banc.
Please note donations will so far as possible be applied to the purpose for which they were given however the Trustees of Cymdeithas Rheilffordd Eryri reserve the right to use money given for any purpose within the Society’s charitable aims.

