Rhedir y Gymdeithas yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, pob un ohonynt gyda’r un angerdd a’r weledigaeth i ddatblygu Rheilffordd Ucheldir Cymru (RhUC) ac i wireddu ei photensial. Mae hyn yn cynnwys ein Cyfarwyddwyr etholedig, ein Haelodau, gweinyddwyr gwefan a’n cydgysylltwyr gwirfoddol a phob un yn chwarae eu rhan yng ngweithrediad y Gymdeithas. Gallwch ddarganfod rhagor amdanynt a sut y gallwch chi helpu yma.
Yn ogystal, mae’r Gymdeithas yn cyflwyno dwy wobr yn flynyddol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) i gydnabod cyfraniadau a chyflawniadau unigolion neu grwpiau sydd wedi mynd tu hwnt i’n helpu ni ar ein siwrnai i gadw’r freuddwyd yn fyw.
Ein Bwrdd
Mae Bwrdd etholedig Cymdeithas Rheilffordd Eryri yn gyfrifol am arolygiaeth strategol a llywodraethu’r Gymdeithas ynghyd â gweithrediadau diwrnod i ddiwrnod. Daw ein Cyfarwyddwyr o gefndiroedd amrywiol gan ddod â phrofiadau a mewnwelediadau gwahanol gyda nhw. Etholir Aelodau’r Bwrdd drwy’r broses CCB a hysbysebir swyddi agored yn Rhodiwr Eryri / Snowdon Ranger, cylchgrawn y Gymdeithas, ynghyd â sianelau cyfathrebu eraill.
Y Cadeirydd

Ian King
Etholir Cadeirydd y Gymdeithas yn flynyddol gan y Cyfarwyddwyr i arwain y Bwrdd a’r Gymdeithas yn gyflawn.
Ian has lived in Essex for most of his life. Amongst his earliest memories is being smuggled into Carnforth shed by his grandad towards the end of steam.
He worked the City of London where he specialised in insurance claims against lawyers. He volunteered in the 80’s but drifted away coming back as the WHR revival got going in 2000.
For many years he was the Society’s Finance Director and Membership Director so was most likely to be found driving a spreadsheet. You may bump into Ian at Harbour Station where he can be found as a volunteer platform host.
Dirprwy Gadeirydd

Jo Charles
Mae’r Dirprwy Gadeirydd yn cefnogi’r Cadeirydd a’r Gymdeithas ac yn dirprwyo pan fydd angen.
Jo retired in 2019 following a 36 year career in the NHS in North Wales. She was elected as a Director in 2022 and temporarily also took on the role of Company Secretary from 2023-24. As Deputy Chair she will continue to support the development and strengthening of the Society’s administrative and governance processes.
After initially volunteering as a Station / On-train host, Jo is now training to be a Guard, and also appears as Santa’s Chief Elf on our very popular WHR Santa trains.
Directors
Roger Bentley

Cyfarwyddwr Aelodaeth a Chyllid
Yn ystod ei yrfa, sefydlodd a chadeiriodd Roger Ysgol Fusnes Breifat i hyfforddi uwch-reolwyr i redeg sefydliadau llwyddiannus. Yn dilyn gwerthiant y diddordebau busnesau hyn, mae erbyn hyn ar Fwrdd nifer o Elusennau, Cymdeithasau a Chlybiau sy’n gysylltiedig â’i hobïau. Mae’r rhain yn cynnwys CRhFf a CRhE, ble mae, yn ogystal â bod yn rhan o griw y liocomotifau, yn rhannu ymarferion ac arloesiadau da i helpu’r ddwy Gymdeithas i ffynnu er lles yr Aelodau a’r Rheilffordd.
Mark Gardner
Cyfarwyddwr TG a Chadeirydd y Grŵp Gweledigaeth
Yn dilyn gyrfa mewn Rheolaeth Rhaglen TG Bydol (yn bennaf gyda chwmnïoedd Telathrebu), symudodd Mark i fyw wrth ochr ein rheilffordd. O’r herwydd, manteisiodd ar y cyfle i gynyddu ei amser gwirfoddoli ar lawr caban injan, ond difethwyd hyn wrth iddo gytuno i redeg portffolio TG y rheilffordd!
I ffwrdd o’r rheilffordd, mae Mark yn ymddiddori mewn hwylio.
Graham Rumbelow
Director
David Jones

Cadeirydd Digwyddiadau a Phwyllgor Codi Arian a Chyfarwyddwr Grwpiau Lleol yr Ardal.
Mae David wedi gwirfoddoli ar RhUC a RhFf ers 2013, ond mae wedi bod yn ymddiddori mewn cadwraeth rheilffyrdd stêm mewn mannau eraill ers 2008. Yn dilyn cwrs coleg, dechreuodd gwrs prentisiaeth mewn cwmni cadwraeth peirianneg stêm yn Swydd Surrey gan barhau fel peintiwr a llythrennwr cerbydau rheilffordd cyn symud i Borthmadog. Ymunodd â’r Bwrdd yn 2023.
Wedi cyfnod fel aelod o staff y gwaith cerbydau yn Boston Lodge, symudodd David o’r ardal i
gymryd rôl fel Rheolwr Injans ar Reilffordd Perrygrove. Mae’n parhau i dreulio amser ar y rheilffordd yma wrth yrru ein trenau a chefnogi prosiectau eraill pan mae amser yn caniatáu.
Caleb Lovegrove

Cydgysylltydd a Chyfarwyddwr Gwirfoddoli
Dechreuodd ymrwymiad Caleb â’r rheilffordd yn adran y locomotifau pan oedd yn 16 oed. Gyda llygaid craff am fusnes, dechreuodd gyd-drefnu gweithrediad dyddiol siop bapurau newydd fechan tra roedd yn y coleg.
After leaving college with 4 A levels including engineering & mathematics, the opportunity arrised to become the manager of a commercial miniature railway for The Steam Workshop Ltd.
Gyda hanes dda o weithio gyda gwirfoddolwyr a phobl o gefndiroedd gwahanol, mae Caleb yn awr yn gydgysylltydd gwirfoddolwyr i Gymdeithas RhUC ynghyd â pharhau gyda’i rôl fel taniwr ar y ddwy reilffordd
Benjamin McCormick

Cyfarwyddwr Cyfathrebu
Mae cefndir Benjamin mewn rheolaeth prosiect brand awtomotif moethus gyda phrofiad flaenorol yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’n gyfrifol am bresenoldeb ar-lein y Gymdeithas a cheisio amrywio ei apêl i annog aelodau newydd. Yn ogystal, mae Benjamin yn Giard ar y rheilffordd ac mae’n mwynhau bod ynghlwm gyda meysydd eraill fel cynnal a chadw ochrau’r lein dros y gaeaf.
Adrian Strachan
Cyfarwyddwr Prosiectau Rholstoc ac Arweinydd Prosiect Garratt NG15, rhif 134.
Swyddogion
Llywodraethiant
Ysgrifennydd y Cwmni
To Be Appointed
Trysorydd
Steve Cheeseman
Tîm Aelodaeth
Graham Hoyland
Gary Jones
Richard Watson

Mae Richard wedi ymddeol o fod yn wyddonydd bwyd gyda chefndir mewn uwch reolaeth. Mae wedi bod yn frwdfrydig am reilffyrdd erioed ac wedi bod yn aelod o Gymdeithasau RhFf a RhUC ers blynyddoedd lawer. Bu’n gwirfoddoli ar Wyriad RhFf ac ar y ffordd haearn ac arweiniodd dîm a fu’n ail-adeiladu wagenni ac chreu arwyddion gorsafoedd ar gyfer RhUC. Yn ogystal, bu’n gweithio ar brosiect llwyddiannus pryd yr ail-adeiladwyd injan Austerity lled safonol allan o ddarnau. Ar hyn o bryd, ef yw Ysgrifennydd Aelodaeth CRhE.
Rhodiwr Eryri / The Snowdon Ranger
Bob Zeepvat

Golygydd Rhodiwr Eryri / The Snowdon Ranger
Yn y brifysgol, astudiodd Bob archaeoleg. Er er fod wedi ymddeol erbyn hyn, bu’n gweithio ar ystod eang o safleoedd cyn-hanes, rhai oed diwydiannol ac adeiladau hanesyddol. Yn awr mae’n cynghori RhFf a RhUC ar archaeoleg. Fel myfyriwr, gwirfoddolodd yn gyntaf ar Wyriad RhFf, yna ar y ffordd haearn a Boston Lodge, gan ddychwelyd yn dilyn toriad hir i helpu adeiladu RhUC. Heddiw, mae Bob yn gyd-drefnydd gwirfoddolwyr is-adeiledd Criw Gweddill y Byd ac yn Olygydd cylchgrawn CRhE, sef Rhodiwr Eryri / The Snowdon Ranger. Rhodiwr Eryri / The Snowdon Ranger
Dyfarniadau’r Gymdeithas
Dyfarniad Francis Blake
Enwir y dyfarniad yma er cof am y diweddar Francis Blake. Sefydlwyd y dyfarniad yn 2017 i gydnabod grŵp sydd wedi mynd heibio’r filltir ychwanegol i gyflawni yn ystod y flwyddyn. Cyflwynwyd y dyfarniad ei hun, sef rhaw taniwr, i Mr Blake rhai blynyddoedd yn ôl ac fe’i cyflwynwyd yn ôl i’r Gymdeithas gan ei weddw. Glanhawyd y rhaw, ysgythrwyd hi gyda geiriau addas a phlatiwyd hi gyda chrôm.
| Blwyddyn | Recipient |
| 2017 | The Tuesday Gang |
| 2018 | The Welsh Highland Heritage Group |
| 2019 | The Membership Team |
| 2020 | Paul Lewin, Graham Farr, & Mark Seale |
| 2021 | Cedric Lodge & Richard Stagg |
| 2022 | The Santa Team |
| 2023 | WHR 100 Event Team |
| 2024 | Rest of the World Gang |
Symbol Gwerthfawrogiad
Cychwynwyd y dyfarniad yma yn 2003 fel symbol o werthfawrogiad y Gymdeithas i unigolyn neu grŵp oedd wedi gwneud cyfraniad amlwg i’r Gymdfeithas a / neu y Rheilffordd dros y flwyddyn flaenorol.
Replica hanner maint o daleb lein sengl RhUC ‘Snowdon Ranger’ i Rhyd Ddu (De’r Wyddfa) yw ffurf y dyfarniad
| Blwyddyn | Recipient | Dyfarnu am |
| 2003 | Ivan Ball | Ysgrifennydd Aelodaeth yn ymddeol; am sefydlu bas data’r aelodaeth |
| 2004 | Colin Hill | Arwain y Tîm K1 am 9 mlynedd. |
| 2005 | John Sweet | Ysgrifennydd adnewyddiadau ac aelodaeth. |
| 2006 | Bob Carnell | Trysorydd yn ymddeol yn ogystal â delio gyda cheisiadau Rhoddion Cymorth yn dilyn cofrestriad y Gymdeithas fel elusen. |
| 2007 | Alf Williams | Ymdrech amlwg fel gwirfoddolwr yn treulio cyfartaledd o bum diwrnod yr wythnos gyda’r adran locomotifau. |
| 2008 | John Sreeves | Cyfraniad gwirfoddolwr amlwg wrth gynllunio pob un o’r prif bontydd ar y Rheilffordd a ail-adeiladwyd. |
| 2009 | Stuart McNair | Cyfraniad gwirfoddolwr hynod fel peiriannydd sifil ar Rhan 4 o’r ail-adeiladu |
| 2010 | David Tidy and Laurence Armstrong | Setting up the Society’s website and curating Dr Ben Fisher’s WHR project website following his sudden death. |
| 2011 | Barrie Clark | Ymdrech hynod fel gwirfoddolwr ar y trac o gychwyn Rhan 1 i gwblhau Rhan 4 o’r ail-adeiladu ynghyd â gwaith gyda K1. |
| 2012 | Rob Merrick | Mewn cydnabyddiaeth o’i waith amlwg yn cynnal a chynyddu rhifau aelodaeth a delio gyda cheisiadau Rhoddion Cymorth. |
| 2013 | Roy Woods | Mewn cydnabyddiaeth o’i waith eithriadol dros nifer o flynyddoedd yn golygu ‘The Snowdon Ranger.’ |
| 2014 | Paul Bradshaw | Mewn cydnabyddiaeth o’i waith amlwg fel arweinydd Criw Gweddill y Byd a fu’n chwarae rôl allweddol wrth osod cledrau yn Rhan 4 o’r ail-adeilau ac yng Ngorsaf yr Harbwr. |
| 2015 | Tony Murphy | Am wasanaeth eithriadol fel Sion Corn ar y trenau Santa a nifer o flynyddoedd yn gweithio gyda chriwiau’r trac |
| 2016 | John Ellis Williams | Am wasanaeth tymor hir fel gwirfoddolwr trac a nifer o rolau eraill |
| 2017 | Steve Harris | Am waith gyda system a bas data Aelodaeth y Gymdeithas. |
| 2018 | Mike Hadley | Am wasanaeth maith fel gwirfoddolwr, yn bennaf yn gysylltiedig â threftadaeth RhUC. |
| 2019 | Ben Smith | Am wasanaeth hir ymrwymiedig fel gwirfoddolwr prosiect adferiad NG15. |
| 2020 | Alastair Wilkinson | Am wasanaeth maith fel Ysgrifennydd y Cwmni |
| 2021 | Jim Comerford | Am wasanaeth maith fel gweithiwr cyson ar y trac a gwirfoddolwr Peirianneg gyda Chriw Dydd Mawrth |
| 2022 | Steve Cheeseman | Exemplary effort as the Society’s Treasurer. |
| 2023 | Peter Roughley | In recognition of tireless work ensuring chainage markers are in place along the length of the WHR, volunteering with the Infrastructure Department, and many other activities over the years. |
| 2024 | Laurence Armstrong and Martin Coombs | In recognition of substantial and outstanding contributions to the restoration of NG15 – 134 over many years |
Enwebu Dyfarniad
Gellir gwneud enwebiad i ddyfarniad Francis Blake a’r Symbol Gwerthfawrogiad trwy gysylltu â’r Gymdeithas a bydd y Gymdeithas yn ystyried yr enwebiadau ac yn cymeradwyo’r dyfarniadau.

