Mae prosiectau a gwblhawyd ac a gefnogwyd gan y Gymdeithas wedi bod yn ganolog i ddadenni Rheilffordd Ucheldir Cymru. Er bod y rheilffordd wedi’i chwblhasu erbyn hyn o Gaernarfon i Borthmadog, mae digon i’w wneud i gwblhau’r freuddwyd.
Apêl Flynyddol
Carriage 2090
One of the first carriages built for the re-born Welsh Highland Railway, Carriage 2090 has been an invaluable part of the fleet for nearly 30 years but extensive use and the full effect of the Welsh weather has taken its toll and the vehicle is now in desperate need of overhaul: the interior is below current standards; the body is full of holes in the woodwork; and there are all the issues found in the other Winsons to be dealt with.
Carriage 2090 is in daily use on WHR trains providing essential additional toilet and brake van facilities for journeys lasting up to two-and-a-half hours. Therefore we need to ensure we have the funds in place to support the estimated £100,000 cost of the overhaul and have the carriage back in traffic as soon as possible, with a slot currently set aside for it to enter the works towards the end of 2026. This will see the carriage fit and ready to carry out another 30 years service.

NG15 No. 134 – 'Kalahari’
Rheolwyd a chefnogwyd atgyweiriad Injan NG15 Rhif 134 ‘Kalahari’ yn ariannol a gydag adnoddau gwirfoddol gan Gymdeithas Rheilffordd Eryri (CRhE) nes ei bod yn gweithio ar Reilffordd Ucheldir Cymru. Bu yr injan fawr gref hon mewn gwasanaeth ynghynt yn Ne Affrica am ei holl amser mewn gwaith, tan ei disodlwyd gan beiriannau disel. Daeth injan rhif 134 hefyd i Ogledd Cymru yn 1998 ynghyd â’i chwaer injan – 133, gyda’r uchelgais i ddychwelyd y ddwy i stêm a thynnu trenau ar y rheilffordd.
Fodd bynnag, gyda maint yr her o atgyweirio’r injan ynghyd â’r angen i gadw’r brif fflyd o Injans Garrat NG/G16 yn weithredol a chadw’r rheilffordd i fynd, nid oedd atgyweirio yn flaenoriaeth a gorffwyswyd yr injan yn yr iard yn Dinas am nifer o flynyddoedd. Cychwynnodd yr ymdrech bresennol i adfer yr injan yn 2008 ac ers hyn gwelwyd cynnydd rheolaidd trwy ymdrech gref gan wirfoddolwyr. Mae CRhE wedi ariannu’r prosiect gyda oddeutu £800,000.
Erbyn hyn, mae’r injan bron wedi’i hadfer yn llawn a bydd 134 yn ychwanegiad unigryw i fflyd Rheilffordd Ucheldir Cymru gyda diolch i gefnogaeth cyfranwyr a gwirfoddolwyr CRhE. NG15 project site here.
Uwch-Salŵn 2050
RhUC yw reilffordd treftadaeth hiraf y DU gyda’r siwrnai ar ei hyd yn cymryd hyd at ddwy awr a hanner; gan ei bod yn un o atyniadau mwyaf Gogledd Cymru, mae ein hymwelwyr yn disgwyl tystio profiad ac ansawdd arbennig. Mae safon ein cerbydau yn chwarae rhan fawr yn hyn gan mai yma mae ein hymwelwyr yn treulio'r mwyafrif o’u hamser. Mae’r Gymdeithas eisoes wedi noddi adeiladu tri o’r cerbydau a gyfeirir atynt fel uwch-Salwnau ynghyd â cherbyd arsyllu dosbarth cyntaf syfrdanol a enwyd yn ‘Gwyrfai’ ar gyfer RhUC. Oherwydd bod angen cadw’r cerbydau mewn safon uchel yn rheolaidd, safon sy’n cyfarfod â’r angen, mae gofyn i ni adeiladu rhagor o stoc. Felly, mae’r Gymdeithas wedi ymroddi i adeiladu Uwch-Salŵn arall, rhif 2050, i ymestyn y fflyd a helpu i ddiwallu anghenion y rheilffordd.

Sied Lôn Rhif 8 Boston Lodge
Yn 'Kalahari'Yn 'Kalahari'fuan, bydd NG15 ‘Kalahari’ yn ymuno â’n hinjans Garratt gweithgar ac mae’r dosbarth yma yn rhan hanfodol o weithrediad Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae’r injans yma yn werth dros filiwn o bunnoedd yr un ac mae atgyweiriad llawn arnynt. Felly, ni fuasech yn disgwyl i’n heiddo annwyl gael eu gadael allan i wynebu cael eu chwistrellu â dŵr hallt dros nos. Dyma sy’n digwydd i’r injan a leolir y tu allan i Boston Lodge gan nad oes sied sy’n ddigon mawr iddi. Nid yw hyn yn gynaliadwy a gyda ‘Kalahari’ bron yn barod, rydym yn awyddus i atal yr un dynged eto i’n hychwanegiad newydd, yn arbennig wrth ystyried ein bod wedi gwario dros dri chwarter miliwn yn ei hatgyweirio hyd yn hyn. Felly, rydym wedi lansio prosiect i adeiladu cyfleuster dan do i gadw a rhoi gwasanaeth i injans RhUC yn Boston Lodge a chyfeirir ato fel Prosiect Sied Lôn Rhif 8.

Helpwch ni i wireddu’r freuddwyd
Gallwch chwarae rhan wrth ein helpu i gwblhau’r darnau o jig-so sydd yn weddill, y jig-so i adfer Rheilffordd Ucheldir Cymru, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol werthfawrogi a disgyn mewn cariad â’r lein. Mae nifer fawr o ffyrdd o ymuno â’r siwrnai hon wrth gefnogi rheilffordd treftadaeth hiraf Prydain, felly cymrwch y cam a dowch gyda ni heddiw.




