Amdanom ni

Cymdeithas Rheilffordd EryriSaesneg: The Welsh Highland Railway Society) yn 1992 fel cymdeithas i gefnogi ail-adeiladu Rheilffordd Ucheldir Cymru. Ar y cychwyn, roedd Rheilffordd Ucheldir Cymru yn rhedeg o Dinas, ger Caernarfon, heibio troed Yr Wyddfa a thrwy bentref Beddgelert i Borthmadog. Mae hanes y rheilffordd yn deillio’n ôl i 1825 ac fe’i gweithiwyd mewn adrannau hyd nes ei hagorwyd yn llawn yn 1923. Fodd bynnag, nid oedd y rheilffordd yn talu’i ffordd ac fe’i caewyd yn 1937.

Dechreuodd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, oedd yn gweithredu’r lein yn yr 1930au, i ail-agor y lein yn yr 1990au ac ail-agorwyd yr adran o Gaernarfon i Dinas yn 1997. Trwy ymdrech ddyfal o adeiladu’r lein trwy olygfeydd ysgythrog Eryri, agorwyd fesul adran nes y cwblhawyd y lein gyfan yn 2011, gan greu rheilffordd treftadaeth hiraf y DU - yn 25 milltir o hyd a chreu un o deithiau trên mwyaf adnabyddus y byd ar yr un amser. Mae’r Gymdeithas wedi bod yn ganolog wrth gynorthwyo i gadw’r freuddwyd yn fyw.

Prosiectau blaenorol y Gymdeithas

Mae’r Gymdeithas yn cefnogi’r Rheilffordd mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys codi arian, recriwtio gwirfoddolwyr a hyrwyddo’r rheilffordd, ei threftadaeth a’i rôl fel prif atyniad twristiaid. Mae CRhE hyd yn oed yn berchen ar eiddo, Station View, lle y darparir llety i wirfoddolwyr tra'n gweithio ar y rheilffordd.

Amcanion y Gymdeithas:

“Yn gyffredinol, i annog a hyrwyddo diddordeb y cyhoedd yn y Rheilffordd o Gaernarfon i Borthmadog (gan gynnwys Rheilffordd Ucheldir Cymru gynt) gan gynnwys ei hanes, ei hadferiad, ei gweithrediad, ei locomotifau, ei stoc wageni a cherbydau, ei pheirianwaith a’i hoffer o ddiddordeb cyffredinol a hanesyddol perthnasol.”

Rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd Cyfarwyddwyr etholiadol sy’n gyfrifol am lywodraethu strategol y Gymdeithas yn unol â’i amcanion elusennol.

Stori’r Rheilffordd

Dysgwch ragor

Prosiectau y Gymdeithas

Dysgwch ragor

Ein Pobl

Dysgwch ragor
cyCymraeg