Dafydd Thomas, Cyfarwyddwr: 2000 - 2024
Commemorating Dafydd’s service Ian King, stepping into the role succeeding Dafydd as CRhE Chair said:
Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu’r pwt yma, dechreuais trwy ofyn i mi fy hun beth oedd Dafydd yn ei wneud? Daeth yn glir yn fuan iawn y buasai’n haws gofyn beth na fu Dafydd yn ei wneud? Fel rhan o’i ymddeoliad, dechreuom wneud rhestr o dasgiau y bu Dafydd ynghlwm â hwy, ond pan wnaethom gyrraedd yr ail bapur A4……..!
Yn ôl Tŷ’r Cwmnïoedd (Campanies House), ymunodd Dafydd y Bwrdd ar Fedi 16eg 2000 a gwasanaethodd am bedair blynedd ar hugain namyn dau ddiwrniod fel Cyfarwyddwr. Wrth ystyried nad yw’r cwmni wedi bod yn rhedeg ond am ychydig yn llai na naw mlynedd ar hugain, mae cyfnod ei ymrwymiad ef yn un hynod.
Bu’n Gadeirydd am 14 o’r blynyddoedd yma.. Wnaf i ddim dweud llawer am y rôl yma. Dwi’n dysgu llawer am y cyfuniad syrdanol o ynni, amynedd a phenderfyniad a ychwanegodd Dafydd i’r swydd.
Ar y rheilffordd ei hun, credaf na chamodd Dafydd erioed i lawr caban injan nag i’r gweithdy nag i swyddi’n ymwneud â’r teithwyr. Ei hoff rôl oedd ymwneud â’r ffordd haearn neu gydag adeiladau yng nghwmni’r Criw Llaw Ddu (Black Hand Gang) chwedlonol, criw sy’n enwog am gwblhau prosiectau lu ar ac o gwmpas y cledrau – hyn i gyd yn creu archwaeth am baned a bisgedi!
Un enghraifft o Dafydd yn ymwneud â phobl, serch hynny, yw penwythnos ‘Cwrw ar y Cledrau’. Gallwch ddibynnu ar Dafydd i fod ar flaen y gad yn y trefniadau yma ond ni welwyd ef yn codi’r babell.
Dymunwn ymddeoliad hir a hapus i Dafydd er mae’n sicr y bydd hyn yn ymwneud â rhawiau, ysgolion, sgriwdreifars ac yn y blaen!

